Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 9 Chwefror 2021
Amser:
09.30 -
10.40
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jayne Bryant AS (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AS Andrew RT Davies AS David J Rowlands AS |
Tystion: |
Tom Jackson |
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Clerc) Daniel Collier (Dirprwy Glerc) Enrico Carpanini (Cynghorydd Cyfreithiol) Huw Williams (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Ni chafwyd ymddiheuriadau ac ni ddatganwyd buddiannau.
2 Adolygiad o'r Cod Ymddygiad - Ymatebion Ymgynghori
2.1 Gwahoddodd y Pwyllgor Tom Jackson i gyflwyno'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar yr Adolygiad o'r Cod Ymddygiad.
2.2 Trafododd y Pwyllgor yr ymatebion i'r ymgynghoriad ar yr Adolygiad o'r Cod Ymddygiad.
2.3 Nododd y Pwyllgor y bydd yr ymatebion yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod.
3 Trafod adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i)
3.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiadau gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i).
4 Papurau i'w nodi
4.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod blaenorol.